Prosiectau Eraill

Prosiectau sy'n derbyn cefnogaeth asiantaethau eraill

Hafal

Hafal yw'r brif elusen yng Nghymru sy’n gweithio ar ran pobl â salwch meddwl difrifol, ac ar hyn o bryd mae'n rheoli dau gynllun ar ein rhan. Cafodd y prosiect mwyaf diweddar ei gomisiynu ar y cyd gan Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Ceredigion a Bwrdd Iechyd Lleol Ceredigion. Mae’n gynllun newydd ac arloesol ar gyfer cartrefu pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl parhaol gan ddarparu cymorth i 7 oedolyn y mae angen lefel uchel o gefnogaeth tymor hir arnyn nhw yn eu bywyd beunyddiol ac mae dau aelod o staff yn bresennol 24 awr y dydd.

Cymorth i Fenywod

Mae Cymorth i Fenywod yn rhoi cymorth mewn 2 loches i fenywod sy’n dianc rhag trais yn y cartref ac mae cyfanswm o 11 lle gwely ar gael. Hefyd cynigir gwasanaeth cefnogaeth symudol tu allan i'r llochesi.

Anawsterau Dysgu

Mae gennym ni 10 cartref yng Ngheredigion i bobl ag anawsterau dysgu sy’n cael cymorth gan asiantaethau arbenigol megis Mencap Cymru, Opportunities Housing Trust a Chartrefi Cymru.

Twitter Facebook Youtube
Cymdeithas Tai Cantref, Llys Cantref, Church Lane, Newcastle Emlyn, SA38 9AB
ffôn: 01239 712000  |  ffacs: 01239 712001  |  e-bost: post@cantref.co.uk