Ein Prosiectau

Prosiect pobl ifanc digartref

Mae lle ar y prosiect hwn i 6 person ifanc ar unrhyw un adeg. Bydd gan bob person ei ystafell wely/astudio ei hun gan rannu cegin, cyfleusterau golchi a sychu, ystafell ymolchi a chawod, lolfa ac ystafell gyfrifiadur gyda chyswllt gwe. Gall y bobl ifanc drefnu i ymwelwyr ddod i aros gyda'n caniatâd ni. Mae staff cymorth yn bresennol ddydd a nos ac mae camerâu cylch cyfyng ar waith 24 awr y dydd. Mae staff cymorth yn barod i helpu gyda byw o ddydd i ddydd gan gynnwys: llenwi ffurflenni, trefnu arian, trefnu a chadw apwyntiadau, siopa a choginio ac ati. Rydyn ni bob amser yn barod i wrando ar bryderon y preswylwyr a'n nod yw cyflenwi cymorth i'w helpu nhw i gyflawni eu hamcanion.

Prosiect symud ymlaen i bobl ifanc

Mae 9 fflat un stafell wely annibynnol ar gael ar gyfer pobl ifanc sy’n symud ymlaen o gam cyntaf y prosiect pobl ifanc ddigartref. Mae’r prosiect hwn yn gyfle ardderchog i bobl ifanc fyw mewn fflatiau ar eu pen eu hunain gyda help wythnosol gan weithiwr cymorth. Trwy hyn maen nhw'n meithrin hunan barch a hunan hyder ac mae'r prosiect hefyd yn eu galluogi i gynnal eu tenantiaeth a chwilio am gyfleoedd addysg, gwaith neu hyfforddiant.

Llety â chymorth i bobl ifanc sy'n gadael gofal

Mewn partneriaeth â Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Ceredigion, rydyn ni'n darparu cymorth i 6 person ifanc sydd wedi gadael gofal mewn cynllun sy’n cynnwys 6 fflat annibynnol. Mae’r bobl ifanc yn cael cymorth i gynnal eu tenantiaeth a gyda chyfleoedd gwaith, coleg a sgiliau byw. Caiff y bobl ifanc eu cyfeirio aton ni gan y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Prosiect cymorth i gyn-droseddwyr

Rydyn ni'n gweithio mewn cydweithrediad â Gwasanaeth Prawf Dyfed i ddarparu cymorth i gyn-droseddwyr yn y gymuned. Mae dwy ran i’r prosiect. Mae'r rhan gyntaf yn golygu darparu cymorth i 20 o bobl yn y gymuned. Gall rhai o’r unigolion hyn gael eu hailgartrefu yn ail ran y prosiect pan fydd cyn-droseddwyr wedi dod yn denantiaid i ni gan dderbyn cefnogaeth wythnosol gan ein gweithwyr cymorth. Mae'r prosiect yn darparu cartref i 15 o bobl - fel arfer mewn fflatiau annibynnol 1 ystafell wely.

Mae'r gweithwyr cymorth yn cynorthwyo’r tenantiaid i fagu eu hunan barch a’u hunan hyder gan alluogi iddyn nhw gynnal eu tenantiaeth a chwilio am gyfleoedd addysg, gwaith neu hyfforddiant arall. Nid oes terfyn amser penodol i’r cymorth. Gwasanaeth Prawf Dyfed Powys sy'n cyfeirio unigolion i’r cynllun.

Gwasanaeth Cefnogi Tenantiaeth

Mae gennym ni ddau weithiwr cymorth tenantiaeth i helpu tenantiaid gadw eu tenantiaeth â ni. Mae'r gweithwyr yn ymweld â phob tenant newydd ac os oes angen, byddan nhw'n trefnu i alw bob wythnos.  Mae'r gweithwyr cymorth yn cynghori, ysgrifennu llythyrau ar eu rhan, bod yn glust iddyn nhw a'u helpu i ddefnyddio pob math o gyfleusterau cymunedol a chymorth gan asiantaethau arbenigol eraill.

Twitter Facebook Youtube
Cymdeithas Tai Cantref, Llys Cantref, Church Lane, Newcastle Emlyn, SA38 9AB
ffôn: 01239 712000  |  ffacs: 01239 712001  |  e-bost: post@cantref.co.uk