Tai â Chymorth

Rydyn ni'n cyflenwi gwasanaethau sy'n helpu pobl i gael cartref a chynnal tenantiaeth gyda ni ac i fyw'n annibynnol. Caiff hyn ei ddarparu naill ai o fewn cynllun tai â chymorth penodol neu fel gwasanaeth i bobl yn eu cartrefi. Mae rhai o'n gwasanaethau cymorth i'w gweld yn y prosiectau yn y rhan hon o'r wefan. Rydyn ni hefyd yn gweithredu fel landlord i nifer o brosiectau sy'n cael eu rhedeg gan ddarparwyr cymorth eraill - cliciwch prosiectau ar y dudalen hon. Gweler Ein Prosiectau a Prosiectau Eraill i gael rhagor o fanylion.

Mae'r cymorth sy’n gysylltiedig â thai yn cynnwys cyngor, canllawiau ac anogaeth i sicrhau a chynnal tenantiaeth, cael mynediad at fudd-daliadau a gwasanaethau eraill a datblygu sgiliau bywyd. Rydyn ni'n cadw cyswllt rheolaidd â chleientiaid, gan gytuno ar gynlluniau cymorth sy'n gosod nodau a thargedau iddyn nhw eu cyflawni.

I gael rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau cymorth cysylltwch â'n Rheolwr Tai â Chymorth ar 01239 712000

Cymdeithas Tai Cantref, Llys Cantref, Church Lane, Newcastle Emlyn, SA38 9AB
ffôn: 01239 712000  |  ffacs: 01239 712001  |  e-bost: post@cantref.co.uk