Prynu eich Cartref

Mae'r rhan fwyaf o'n cartrefi ar rent i'n tenantiaid. Ambell waith mae tenantiaid yn dymuno eu prynu oddi wrthym ni ac mae dwy ffordd i wneud hyn.

Hawl i Brynu

Os daethoch yn denant i Cantref cyn 15 Ionawr 1989, rydych chi'n denant diogel, ac mae’n bosibl bod gennych Hawl i Brynu eich eiddo ar ddisgownt - oni bai bod eich cartref wedi'i gynllunio'n arbennig i bobl hÅ·n. Mae’r disgownt yn dibynnu ar ba mor hir rydych chi wedi byw yn yr eiddo a’r math o eiddo sydd gennych - fflat, maisonette neu dÅ·. Y disgownt mwyaf posibl yw £16,000. Os ydych chi'n credu y gallech fod yn gymwys i brynu eich cartref dan y cynllun Hawl i Brynu, cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Hawl i Gaffael

Os cafodd eich cartref ei adeiladu neu ei brynu gan Cantref ar ôl 1 Ebrill 1997, a'ch bod chi'n denant sicr, mae’n bosibl bod gennych yr Hawl i Gaffael yr eiddo ar ddisgownt. Yn ogystal, mae’n rhaid eich bod wedi treulio o leiaf dwy flynedd fel tenant cyngor neu gymdeithas dai. Mae'r disgownt yn cyfateb i 25% o werth yr eiddo ar y farchnad, hyd at uchafswm o £16,000 ond mae mathau penodol o eiddo mewn mannau penodol yn cael eu heithrio. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â ni.

Twitter Facebook Youtube
Cymdeithas Tai Cantref, Llys Cantref, Church Lane, Newcastle Emlyn, SA38 9AB
ffôn: 01239 712000  |  ffacs: 01239 712001  |  e-bost: post@cantref.co.uk