Cynnal a Chadw ac Atgyweirio

Rydyn ni wedi cynnal arolwg o'n holl gartrefi ac ar hyn o bryd rydyn ni'n gweithio ar raglen i'w gwella er mwyn cyrraedd a chynnal Safon Ansawdd Tai Cymru y Cynulliad. Mae'r rhain yn cynnwys uwchraddio ceginau, ystafelloedd ymolchi, ffenestri, drysau ac ati. Rydyn ni hefyd yn gwella inswleiddio ein cartrefi i'w gwneud nhw'n gynhesach, yn fwy effeithlon o ran ynni ac yn rhatach i fyw ynddyn nhw.

Rydyn ni hefyd am sicrhau ein bod ni'n cyflawni amcanion adfywio ehangach drwy wneud y gwelliannau hyn er mwyn creu gwell cymdogaethau a chymunedau cryfach.

Mae atgyweirio eich cartref yn bwysig iawn i ni. Pan fydd angen atgyweirio eich cartref rydyn ni am wneud y gwaith yn brydlon. Mae rhai o'r atgyweiriadau yn gyfrifoldeb i ni, a rhai eraill yn gyfrifoldeb i chi - gallwch weld rhestr fanwl yn ein Llawlyfr Tenantiaid neu yn adran Cwestiynau Cyffredin y wefan hon.  Rydyn ni'n ymdrin ag atgyweiriadau yn ôl brys a'ch anghenion chi. Caiff atgyweiriadau mewn argyfwng eu gwneud o fewn 24 awr, atgyweiriadau brys o fewn 7 diwrnod ac unrhyw atgyweiriad arall o fewn 28 diwrnod.

Rhoi gwybod i ni fod angen atgyweirio

Os oes angen atgyweirio rhywbeth, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl, a rhowch y manylion canlynol i ni:

  • Eich enw, cyfeiriad a rhif cyswllt.
  • Yr hyn rydych chi’n credu sy angen ei wneud, gan roi cymaint o fanylion â phosibl
  • Pryd y bydd rhywun yn y cartref er mwyn gallu gwneud y gwaith neu'r archwiliad.


Ffoniwch neu ebostiwch ni

Tîm y Gogledd
0333 700 1023
gogledd@cantref.co.uk

Tîm y De
0333 700 1024
de@cantref.co.uk

Neu galwch heibio'r swyddfa rhwng 9 a.m. a 5 p.m. Dydd Llun - Dydd Iau neu 9 a.m. - 4 p.m. Dydd Gwener. Hefyd gallwch gael gwasanaeth brys y tu allan i oriau swyddfa drwy ffonio 01239 712000.

Os ydych chi'n cael trafferth neu os oes angen cyngor arnoch chi ar ddefnyddio eich cartref a phethau fel tanau, boeleri, gwresogyddion dŵr, cawodydd neu synwyryddion mwg, cysylltwch â ni.

Twitter Facebook Youtube
Cymdeithas Tai Cantref, Llys Cantref, Church Lane, Newcastle Emlyn, SA38 9AB
ffôn: 01239 712000  |  ffacs: 01239 712001  |  e-bost: post@cantref.co.uk