Cyfleoedd Gyrfa
Ymunwch â ni fel aelod o staff
Rydyn ni'n cyflogi 67 o staff mewn amrywiaeth o swyddi. Rydyn ni’n benderfynol o recriwtio gweithlu sy’n adlewyrchu’r gymuned lle'r ydyn ni’n byw. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio i ni, fe fydden ni'n hoffi clywed gennych chi. Mae Cantref wedi ymrwymo i Gyfle Cyfartal ac yn croesawu ceisiadau oddi wrth bobl o bob cefndir. Gweler ein Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth am ragor o fanylion.
Os hoffech gael gwybodaeth bellach, cysylltwch â’n Hadran Adnoddau Dynol yn uniongyrchol ar 01239 712029.
Nid oes swyddi gwag ar gael ar hyn o bryd
