Ein Dull o Weithredu

Mae cenhadaeth, gwerthoedd a phwrpas unigryw yn ein gyrru
Ein cenhadaeth yw:
'Yn falch i'ch cynorthwyo i droi tÅ· yn gartref i chi'
A'n gwerthoedd yw:
- Parchu eraill
- Canolbwyntio ar anghenion y cwsmer
- Ymdrechu’n gyson i ddod o hyd i ddatrysiadau arloesol
- Bod yn agored a thryloyw
- Bod yn uchelgeisiol
- Cydweithio ble bynnag a phryd bynnag y gallwn
- Cryfhau’r cymunedau lle’r ydyn ni’n gweithio
- Hybu dwyieithrwydd
Ein bwriad yw dod o hyd i ddatrysiadau tai i bobl. Dyw hi ddim yn fwriad gennym i wneud elw - ac os gwnawn ni, rydyn ni'n ei ddefnyddio i wella'r hyn rydyn ni'n ei wneud. Dydyn ni ddim yn talu buddran i'n cyfranddalwyr.
Os hoffech gymryd rhan yn ein gwaith, ymunwch â ni fel aelod cyfranddaliol drwy gwblhau'r ffurflen gais aelodaeth, sydd yn yr adran Adnoddau, a'i hanfon yn ol gyda thal o £1. Bob blwyddyn yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol mae ein cyfranddalwyr yn ethol ein Bwrdd, a hwnnw sy'n llywodraethu popeth a wnawn. Ein tîm o staff cyflogedig sy'n rhedeg y busnes o ddydd i ddydd. Mae'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a chyfarfodydd y Bwrdd yn agored i'r cyhoedd - edrychwch ar y dudalen Cyfarfodydd a Digwyddiadau yn yr adran Adnoddau a Lawrlwytho ac os hoffech chi ddod, rhowch wybod i ni.
