Amdanom ni

 

 

 

Mae Cantref yn darparu 1,371 o gartrefi a gwasanaethau lletya i gymunedau ledled Gorllewin Cymru. Dros y flwyddyn ddiwethaf rydyn ni wedi buddsoddi £6m yn y busnes.

Rydyn ni'n gweithio gyda nifer o bartneriaid, ond ein tenantiaid sy'n ganolog i bopeth a wnawn a'n nod yw creu cartrefi iddyn nhw eu mwynhau ac adeiladu cymunedau cryfach.

Rydyn ni'n cyflogi 67 aelod o staff sy'n gweithio naill ai mewn prosiectau tai neu yn ein swyddfa yng Nghastell Newydd Emlyn.

Cawn ein llywodraethu gan Fwrdd o wirfoddolwyr di-dâl a'r staff cyflogedig sy'n rhedeg y busnes o ddydd i ddydd.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i weld ein Cynllun Busnes 5 Mlynedd diweddaraf a'n Hadroddiad Blynyddol diweddaraf drwy glicio ar yr ardal Adnoddau

Ein nod yw sicrhau cydraddoldeb cyfle a thriniaeth deg i bawb ac rydyn ni'n gweithredu polisi dwyieithog i ymdrin â chwsmeriaid yn eu dewis iaith - gweler ein Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a'n Cynllun Iaith Gymraeg yn yr adran Adnoddau a Lawrlwytho.

Cymdeithas Tai Cantref, Llys Cantref, Church Lane, Newcastle Emlyn, SA38 9AB
ffôn: 01239 712000  |  ffacs: 01239 712001  |  e-bost: post@cantref.co.uk