Dilyn y Llwybr Gwyrdd

 Rydyn ni’n gwella safon insiwleiddio ein cartrefi gan eu gwneud yn fwy effeithlon o ran ynni er mwyn lleihau costau i’n tenantiaid

Croeso

Cymdeithas dai yw Cantref sy’n darparu cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel a gwasanaethau lletya i bron i 3,500 o bobl ar draws ardal pedwar awdurdod lleol yng ngorllewin Cymru: Ceredigion, Gogledd Sir Benfro, Gogledd Sir Gaerfyrddin ac ardal Machynlleth ym Mhowys.

Mae gennym dros 1370 o gartrefi ar rent ac yn ystod y tair blynedd nesaf byddwn yn datblygu dros 140 uned newydd.
 
Rydyn ni’n darparu cartrefi ar gyfer teuluoedd, pobl ifanc, yr henoed, a phobl ag anghenion arbennig gan roi cymorth i’w galluogi i fyw yn y gymuned. 
 
Dyma ein datganiad cenhadaeth:
Yn falch o droi tÅ· yn gartref i chi
 
Dyma ein gwerthoedd: 
  • Parchu eraill
  • Canolbwyntio ar anghenion y cwsmer
  • Ymdrechu’n gyson i ddod o hyd i ddatrysiadau arloesol
  • Bod yn agored a thryloyw
  • Bod yn uchelgeisiol
  • Cydweithio ble bynnag a phryd bynnag y gallwn
  • Cryfhau’r cymunedau lle’r ydyn ni’n gweithio
  • Hybu dwyieithrwydd 
Cymdeithas Tai Cantref, Llys Cantref, Church Lane, Newcastle Emlyn, SA38 9AB
ffôn: 01239 712000  |  ffacs: 01239 712001  |  e-bost: post@cantref.co.uk